Resize Text:

Switch to:

Craffu a Goruchwylio

Un o brif gyfrifoldebau'r Comisiynydd yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, er mwyn i wasanaeth yr heddlu yn Ne Cymru weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn hyrwyddo pedair egwyddor er mwyn sicrhau bod trefniadau 'dwyn i gyfrif' yn effeithiol:

  Darparu her 'cyfaill beirniadol' adeiladol

   Amlygu lleisiau a phryderon y cyhoedd

   Cael arweiniad gan bobl annibynnol sy'n cymryd cyfrifoldeb am eu rôl

   Ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus

 

Mae'r Comisiynydd a'i dîm yn gweithio gyda'r egwyddorion hyn mewn golwg wrth gyflawni eu rôl goruchwylio a chraffu.  

Mae'r cyfarfodydd canlynol yn cefnogi'r broses graffu a goruchwylio:

 

Bwrdd Strategol y Comisiynydd

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd y Prif Gwnstabl a'i Brif Swyddogion hefyd yn bresennol. Y Bwrdd hwn yw'r brif ffordd y mae'r Comisiynydd yn goruchwylio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr heddlu ac yn monitro cynnydd yn erbyn  blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu .  

Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd y Comisiynydd

Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd Prif Swyddogion y Prif Gwnstabl yn bresennol. Mae'r Bwrdd hwn yn craffu'n fanwl ar faterion plismona penodol, yn enwedig y rhai a nodwyd yng Nghynllun Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd a Chynllun Cyflawni cysylltiedig y Prif Gwnstabl.  Yn y cyfarfod hefyd, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a phrosiectau allweddol yr heddlu.  Caiff y canfyddiadau eu cyfleu i'r Bwrdd Strategol.  Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl a rhaglen graffu 2019 yma.

 

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG) y Comisiynydd

Mae'r grŵp hwn, sy'n cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr y Comisiynydd, yn helpu'r Comisiynydd â'i swyddogaeth graffu a goruchwylio drwy ddarparu mewnbwn allanol, annibynnol.  

Cydbwyllgor Archwilio

Mae'r pwyllgor hwn, sydd wedi'i gadeirio'n annibynnol, yn mynd ati i gyd-arolygu Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd.  Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl yma.

Mae cofnodion y cyfarfod yma.

HMICFRS

Mae'r Comisiynydd hefyd yn monitro hynt Heddlu De Cymru o ran yr argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS), ac mae'n ymateb i adroddiadau perthnasol HMICFRS.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau craffu'r Comisiynydd, cysylltwch â'r Pennaeth Craffu a Sicrwydd (Hannah Jenkins-Jones) yn Hannah.jenkins-jones@south-wales.police.uk .

Y newyddion diweddaraf

Adolygiad annibynnol i helpu i gefnogi cymunedau clos

Mae adolygiad ar y cyd annibynnol yn cael ei sefydlu fel rhan o fesurau i gefnogi cymuned yn Abertawe.

Caiff yr adolygiad ei arwain gan banel tri aelo…

Gweld mwy >

Hwb ariannol mawr i strydoedd mwy diogel Caerdydd

Mae cais ar y cyd i sicrhau cyllid ar gyfer mesurau a fydd yn helpu i wneud strydoedd Caerdydd yn lleoedd mwy diogel wedi bod yn llwyddiannus.

Dyfarn…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, yn ymateb i adroddiad …

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, yn ymateb i adroddiad Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi ar blismona…

Gweld mwy >