Resize Text:

Cyfleoedd gwirfoddoli

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles anifeiliaid

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol

Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.

I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma

 

Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.

I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma

Y newyddion diweddaraf

100 Swyddog Cymorth Cymunedol newydd i’r Heddlu yn cael eu hariannu gan Lywodrae…

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu 100 Swyddog Cymorth Cymunedol arall i’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â throseddau a …

Gweld mwy >

Adolygiad annibynnol i helpu i gefnogi cymunedau clos

Mae adolygiad ar y cyd annibynnol yn cael ei sefydlu fel rhan o fesurau i gefnogi cymuned yn Abertawe.

Caiff yr adolygiad ei arwain gan banel tri ael…

Gweld mwy >

Hwb ariannol mawr i strydoedd mwy diogel Caerdydd

Mae cais ar y cyd i sicrhau cyllid ar gyfer mesurau a fydd yn helpu i wneud strydoedd Caerdydd yn lleoedd mwy diogel wedi bod yn llwyddiannus.

Dyfarn…

Gweld mwy >