Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Medi'22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Cynlluniau Ymweld i Wirfoddolwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld i wirfoddolwyr. Nod y cynlluniau yw rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y ffordd y mae'r heddlu yn cyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd.
Yn Ne Cymru, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd statudol a'r cynllun ymweld ar gyfer lles anifeiliaid anstatudol. Mae'r Comisiynydd yn penodi gwirfoddolwyr o'r gymuned lleol ac yn eu hyfforddi i ymweld â gorsafoedd yr heddlu, a safle cŵn a cheffylau'r heddlu yn ddirybudd.
Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
“Mae ymweliadau annibynnol â dalfeydd yn system hirsefydledig lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu i weld sut y caiff y carcharorion eu trin a'r amodau yno, ac i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae'n cynnig diogelwch a chyfrinachedd i garcharorion a'r heddlu, ynghyd â sicrwydd i'r gymuned yn gyffredinol” (Cod Ymarfer ar Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd, 2013).
Gydag oddeutu 26,000 o arestiadau'n arwain at gadw unigolion yn y ddalfa yn Ne Cymru yn ystod 2019/20, mae'n oruchwyliaeth gymunedol effeithiol o ddalfeydd yr heddlu ac yn un agwedd ar rôl graffu a goruchwylio gyffredinol y Comisiynydd.
Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid
Fel rhan o'r Cynllun Ymweld ar gyfer Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn adrodd ar les cŵn a cheffylau’r heddlu drwy ymweld â safle cŵn a cheffylau Heddlu De Cymru bob pythefnos.
Os hoffech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ymweld i wirfoddolwyr, anfonwch e-bost atom yn volunteer@south-wales.police.uk.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Alun Michael a'i dîm wedi llwyddo yn eu cais am gyllid gwerth bron £1.5 miliwn i gyflwyno cyfres o fent…
Gweld mwy >Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >