Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Mehefin '22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Fel y nodwyd yn Neddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 'ddyletswydd statudol a mandad etholiadol i ddwyn yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd'. Mae sicrhau ansawdd a chraffu cefnogol yn broses sy'n galluogi'r Comisiynydd i herio, yn ogystal â rhoi cymorth i'r heddlu wneud gwelliannau ac ymateb yn briodol. Hefyd, mae'n ceisio annog ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd o ran effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd plismona lleol.
Ymarferion Sicrhau Ansawdd
Mae aelodau o dîm y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cynnal ymarferion sicrhau ansawdd yn rheolaidd, yn amrywio o adolygu ffurflenni stopio a chwilio wedi'u cwblhau, gwylio ffilmiau o gamerâu fideo a wisgir ar y corff a monitro boddhad dioddefwyr.
Stopio a Chwilio
Mae adolygiadau stopio a chwilio yn sicrhau bod modd craffu ar ffurflenni stopio a chwilio a gwblhawyd ym mhedwar rhanbarth yr heddlu, a hynny o bersbectif ‘person lleyg’. Caiff ffurflenni wedi'u cwblhau eu hystyried o safbwynt eu cywirdeb a'u cyfreithlondeb o ran defnyddio pwerau stopio a chwilio a'r rhesymau dros chwilio. Mae pob ymarfer hap-samplu hefyd yn sicrhau yr archwilir cyfran o ffurflenni sy'n gysylltiedig â phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gan gydnabod bod nifer anghymesur o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig cael eu stopio a’u chwilio, gall craffu o'r fath sicrhau bod pwerau yn cael eu defnyddio mewn ffordd deg, a bod modd ymchwilio i achosion o gamddefnyddio pwerau a'u herio'n briodol.
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…
Gweld mwy >Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafe…
Gweld mwy >