Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2022-2026 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruMae eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael yn gynrychiolydd etholedig, sy’n gweithio er mwyn sicrhau y caiff Heddlu De Cymru ei redeg yn effeithiol.
Daeth Alun Michael yn Gomisiynydd cyntaf yr Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru ar 22 Tachwedd 2012, a chafodd ei ailethol ar gyfer trydydd dymor ar 9 Mai 2021.
Ei nod yw lleihau troseddau a chynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon yn ogystal â ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Mae’r Comisiynydd yn cynrychioli ‘llais y cyhoedd’ a’i nod yw sicrhau bod pryderon plismona a diogelwch ein cymunedau amrywiol yn cael eu clywed ac yr eir i’r afael â nhw yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.
Mae ein taflen 'Eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd' yn rhoi trosolwg cryno o rôl y Comisiynydd a gwaith ein tîm.
Yma, cewch chi hefyd fwy o wybodaeth am y Comisiynydd a’i dîm, y blaenoriaethau plismona y mae Mr Michael am fynd i’r afael â hwy ochr yn ochr â’r Prif Gwnstabl, a gallwch ddysgu mwy am y partneriaid y mae’r Comisiynydd a’r heddlu yn gweithio gyda hwy i helpu i gadw De Cymru yn ddiogel.
Mae’r dyfodol bob amser yn ansicr ond dyma’r egwyddorion a wnaiff sicrhau ein bod ar y trywydd iawn wrth i ni barhau ar ein taith tuag at Dde Cymru hyd yn oed yn fwy diogel:
Mae manylion llawn y genhadaeth , gweledigaeth , gwerthoedd ac egwyddorion ar gael yn y Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru.
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…
Gweld mwy >