res
Newid maint testun:

Ffolineb posibl cael un heddlu i Gymru

llun o Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Alun Michael

Rhaid i wreiddiau plismona yng Nghymru aros yn lleol......

Mae'n egwyddor ganolog bwysig bod yn rhaid i wreiddiau plismona fod yn lleol er mwyn taro'r cydbwysedd cywir.

Nid yw hynny'n golygu y dylai Heddlu fod yn rhy fach (cafodd Merthyr, Abertawe a Chaerdydd eu cynnwys fel rhan o Heddlu De Cymru 52 o flynyddoedd yn ôl) nac yn rhy fawr chwaith (gwnaethom wrthwynebu cynigion i gynnwys Gwent yn y 1990au am y byddai hyn wedi bod yn gam rhy bell).

Ond cyn gynted ag y bydd strwythur arwain plismona yn ymbellhau gormod oddi wrth y cymunedau y mae'n bodoli i'w gwasanaethu, byddwn mewn dŵr poeth.

  • Mae gennyf barch mawr at Richard Lewis ac rwy'n siŵr y bydd yn llwyddiant mawr yn ei swydd newydd fel Prif Gwnstabl Dyfed Powys.
  • Credaf hefyd fod datganoli Plismona a Chyfiawnder Troseddol i Gymru yn briodol ac yn anochel ond y byddai ei gysyniad o un heddlu i Gymru yn llesteirio hyn yn hytrach na'i hwyluso.

Ydy cael un heddlu yn bosibl? Ydy, wrth gwrs, gan ei bod bob amser yn bosibl gwneud pethau'n anghywir. Mae bob amser yn bosibl gweithredu elfen ymatebol plismona ar ôl-troed mwy o faint – Cymru, efallai, neu ranbarthau Lloegr.

Ond byddai'r symlrwydd ffug hwnnw'n golygu y byddem yn colli hunaniaeth, yn colli gwreiddiau ac, yn bwysicach oll, yn colli partneriaeth ac atebolrwydd.

Dyna pam mae “rhanbartholi” wedi bod yn gam rhy bell erioed. Arferai'r cysyniad hwn fod yn boblogaidd iawn ymhlith biwrocratiaid yn Whitehall a fyddai'n ei godi bob tro y câi Ysgrifennydd Cartref newydd ei benodi. Roedden nhw'n meddwl y byddai'n gwneud eu gwaith nhw o redeg pethau yn haws ond, wrth gwrs, nid gwaith swyddogion yw rhedeg pethau ym maes plismona – y Prif Gwnstabl sy'n gyfrifol am hynny. Mae'n ddiddorol nad yw'r syniad wedi codi ei ben yno ers tro: Efallai fod y rhan fwyaf o lunwyr polisi wedi sylweddoli po bellaf yw'r Prif Gwnstabl oddi wrth y cyhoedd, oddi wrth gymunedau ac oddi wrth realiti, y mwyaf yw'r problemau.

Cofiwch eiriau'r Prif Arolygydd Cwnstabliaeth, Syr Tom Windsor, a ddywedodd “nid oes unrhyw beth y gellir ei gyflawni drwy uno na ellir ei gyflawni drwy gydweithio“. Y geiriau pwysig yn hyn o beth yw "y gellir" a thrwy wneud y dewis hwnnw gyda'n gilydd, rydym wedi datblygu'r ffordd Gymreig o weithio sy'n un o'n cryfderau cydnabyddedig.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld y pedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru yn cydweithio ac yn cydweithredu yn fwy ac yn fwy, nid yn unig gyda'i gilydd ond gyda'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid ym maes llywodraeth leol a'r system cyfiawnder troseddol ehangach hefyd, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Mae'n gweithio.

Nid ar hap y mae hyn wedi digwydd. Mae wedi digwydd am fod yr egwyddor o gydweithio wedi rhedeg fel llinyn euraid drwy bopeth rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd. Mae'r pandemig wedi cyflymu'r datblygiad hwnnw – rhywbeth y gallai Richard Lewis fod wedi ei golli yn ystod ei amser yn Lloegr – oherwydd am y tro cyntaf roedd y ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei gorfodi gan yr heddlu yn rhan o Gyfraith Cymru a gyflwynwyd i ddiogelu'r cyhoedd yn ystod y pandemig, am fod Iechyd wedi'i ddatganoli.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyrhaeddodd Llywodraeth Cymru ei llawn oed ar ôl 21 mlynedd o ddatganoli. Dangosodd y Prif Weinidog arweinyddiaeth wych drwy ei benderfyniadau a thrwy ddeall ein hymdeimlad o “gymuned” ym mhob rhan o Gymru a sicrhau bod hyn yn greiddiol i'w ddull gweithredu. Ymgynghorodd Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru â ni fel Comisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid er mwyn sicrhau y byddai'r rheoliadau'n gymesur ac yn effeithiol. Gwaith tîm yw'r norm yng Nghymru bellach a chaiff hynny ei gydnabod yn Whitehall yn ogystal ag yng Nghymru.

Mae'n werth atgyfnerthu neges Mark Drakeford yn ei Ddarlith Sector Cyhoeddus yn Abertawe ryw bedair blynedd yn ôl. Siaradodd yn rymus bryd hynny am yr angen am “Arweinyddiaeth Wasgaredig” sy'n golygu nad oes angen i chi fod ar y brig i ddangos arweinyddiaeth neu i wneud penderfyniadau. Roedd hyn yn tynnu'n groes i “Syndrom Napoleon” sy'n cyfeirio at rai unigolion sy'n meddwl mai dim ond os bydd ef neu hi'n rheoli popeth y bydd popeth yn iawn. Rydym i gyd yn gwneud dewisiadau ac weithiau mae'r dewisiadau hynny, ar ba lefel bynnag y cânt eu gwneud, yn gwneud bywyd yn well neu'n waeth i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Weithiau, y dewis yw gwneud dim – ac yn rhy aml o lawer, mae hynny'n golygu gwasanaeth gwael neu'n arwain at fethu ag atal niwed. Weithiau, gall pobl ar unrhyw lefel mewn sefydliad ddangos arweinyddiaeth a gwneud bywyd yn well i bobl eraill.

Wrth egluro ei gysyniad o “Arweinyddiaeth Wasgaredig”, cyfeiriodd Mark at yr adeg pan oedd y ddau ohonom yn gweithio gyda throseddwyr ifanc ar ystad fawr yng Nghaerdydd pan ddewisodd gweithwyr o sawl asiantaeth weithio gyda'i gilydd i wella pethau a gwneud gwahaniaeth, hynny yw, arfer “arweinyddiaeth wasgaredig” heb i neb ddweud wrthynt am wneud hynny.

Enghraifft arall oedd sgrin gadw Heddlu De Cymru a oedd yn dangos y neges “RWYT TI'N ARWEINYDD” i bob swyddog a phob aelod o staff. Mae gan brif gwnstabl sy'n parchu'r penderfyniadau unigol a wneir gan bob aelod o'i dîm ar bob lefel siawns o gael pethau'n iawn, ond mae angen iddo ef neu hi weld popeth yn glir a bod yn ymwybodol o rinweddau aelodau'r tîm hwnnw hefyd.

Nid yw Plismona na Chyfiawnder Troseddol wedi'u datganoli ond mae pob un ohonom yn gweithio mewn amgylchedd datganoledig. Dyna pam y gwnaethom greu Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru er mwyn galluogi cyrff sydd heb eu datganoli i gydweithio â'i gilydd a chyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol a'n holl bartneriaid datganoledig eraill.

Nid yw'n fawr o syndod ein bod wedi llwyddo i ailagor y llysoedd yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr. Yng ngeiriau'r Arglwydd Ganghellor mewn cyfarfod i gynrychiolwyr o Gymru a Lloegr “mae'n ymddangos eich bod yn well yn gwneud pethau gyda'ch gilydd yng Nghymru“. Roedd hon yn deyrnged arall i'r ethos o gydweithio rydym wedi ei ddatblygu yn y system plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru a rhwng cyrff sydd heb eu datganoli a Llywodraeth Cymru sydd wedi dod mor gyffredin dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Efallai ei bod yn ymddangos mai gweinyddu sydd wrth wraidd y llwyddiannau hyn, ond nid felly y mae:

  • maent yn ymwneud â gweinyddu cyfiawnder mewn ffordd effeithiol ac effeithlon i bobl yng Nghymru,
  • maent yn deillio o barchu pobl a lleoedd
  • maent yn ymwneud â sicrhau bod cyrff datganoledig a chyrff sydd heb eu datganoli yn cydweithio er budd yr aelodau o'r cyhoedd y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu.

Mae'n newid aruthrol yn y ffordd rydym yn gwneud pethau, ac mae llwyddiant wedi dod yn sgil ymdrechion diflino i gydweithio a datrys y problemau gwirioneddol sy'n effeithio ar ein cymunedau.

Mae'n rhyfedd i mi fod Richard Lewis, arweinydd cynhenid yr wyf yn ei groesawu'n ôl i'w rôl newydd yng Nghymru yn gwbl ffyddiog y bydd yn llwyddiant, wedi ymddangos yn sydyn ac yn annisgwyl gydag awgrym sydd mor annheilwng. Mae'n gwybod bod pawb – y tu mewn a'r tu allan i heddlu – yn edrych i'r Prif Gwnstabl am arweinyddiaeth ac os yw'r ffigur hwnnw'n bell ac nad oes ganddo gysylltiadau lleol, rhywbeth a fyddai'n anochel gyda Heddlu i Gymru gyfan, byddai problemau'n siŵr o ddilyn. Efallai y byddai modd datrys un broblem ond byddai problemau eraill yn tyfu'n gyflym fel madarch mewn cymunedau lleol a thrwy'r sefydliad cyfan. Mae'n rhyfedd gan nad yw Richard ei hun yn ŵr sy'n cadw ei bellter.

Gwn nad yw pobl yn y gogledd am weld Plismona yn Wrecsam neu yn Llandudno neu yng Nghaernarfon yn cael ei redeg o Gaerdydd neu Ben-y-bont ar Ogwr. Yn yr un modd, ni fyddwn i am weld Plismona yng Nghaerdydd neu Gasnewydd yn cael ei redeg o Gaerfyrddin neu Fae Colwyn. Na gweld y trefi hynny yn dod o dan gyfrifoldeb pennaeth a fyddai'n edrych fel duw pellennig i'w fodloni yn hytrach nag arweinydd cefnogol sy'n ymgysylltu'n lleol.

Rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fo heddlu'n tyfu mor fawr nad yw'r person ar y brig yn weladwy i'r bobl ar lawr gwlad. Mae'r Heddlu Metropolitanaidd yn bwrw cysgod mawr iawn dros y sector Plismona cyfan yng Nghymru a Lloegr a dylai fod yn wers i ni gyd bod angen cadw ymdeimlad o faint ac atebolrwydd.

Ac rwyf innau, gyda llaw, yn siarad o brofiad, ar ôl gweithredu fel “Awdurdod yr Heddlu” ar gyfer y Met yn Llundain yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog Gwladol. Roedd yn amhosibl gweld y tu hwnt i'r un dyn mawr a oedd yn arwain yr heddlu. A dyn mawr oedd wrth y llyw bob tro bryd hynny. Ni fyddwn am i'r un sefyllfa wynebu'r Gweinidog Plismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru, rôl yr wyf yn mawr obeithio y byddwn yn ei gweld yn ystod fy oes. Byddai'n llawer gwell parhau i adeiladu ar y gydberthynas wych sydd gennym nawr, fel Comisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid, â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac i ni barhau i ddatblygu Cymru fel esiampl o “blismona democrataidd”.
Gydag un heddlu efallai y byddai llai o brif gwnstabliaid ond byddai nifer y Prif Gwnstabliaid Cynorthwyol a'r dirprwyon byrhoedlog yn cynyddu a byddai hyd yr hierarchaeth yr un mor anhydraidd ag un y Met. Byddai gwneud y fath ddewis yn enghraifft o anllythrennedd gweinyddol a sefydliadol.

Roedd y cysyniad hwnnw o “blismona democrataidd” yn ymddangos braidd yn rhyfedd i mi pan glywais amdano gyntaf yn Sarajevo yn 1997 ar ôl i mi fynd yno i weld gwaith Swyddogion yr Heddlu Prydeinig a oedd yn helpu i ailsefydlu gwasanaeth yr heddlu mewn gwlad a oedd wedi'i chwalu gan ryfel lle roedd swyddogion yr heddlu wedi cael eu hystyried ers tro fel asiantiaid y wladwriaeth yn hytrach na gweision y bobl. Ond, drwy hyn, dysgais fod ein model plismona yn fregus a'i bod yn bwysig ailgyflwyno dwy o'r egwyddorion sylfaenol a bennwyd gan Syr Robert Peel pan sefydlodd yr heddlu cyntaf yn Llundain yn 1829.

Os nad ydych o'r farn bod breuder yn broblem yng Nghymru, cofiwch y gofal y bu'n rhaid i arweinwyr yr heddlu ei ddangos pan oedd llywodraeth Margaret Thatcher yn sicr yn ystyried yr heddlu fel asiantiaid iddi. Roedd hon yn broblem fawr yng nghymunedau glofaol y de lle roedd swyddogion yr heddlu a glowyr yn aml yn dod o'r un teulu. Yn y cyfnod hwnnw, gwelwyd brwydr ddirfodol rhwng rheoli a goroesi. Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn un brawychus: Ai Heddlu'r Cyhoedd yw'r rhain neu Heddlu'r Wladwriaeth? Mae arwyddion y gallai'r un cwestiwn godi unwaith eto yn y DU.

Doedd dim amheuaeth gan Syr Robert Peel beth oedd yr ateb cywir: “Yr Heddlu yw'r Cyhoedd a'r Cyhoedd yw'r Heddlu” oedd un o'i ddwy egwyddor blismona allweddol. Caiff yr ymadrodd “plismona drwy gysyniad” yn aml ei ddefnyddio'n ddi-hid fel yr allwedd i blismona ym Mhrydain ond mae cysyniad Syr Robert Peel yn llawer mwy soffistigedig na hynny. Rwy'n aml yn ei aralleirio drwy ddweud “yr Heddlu yw'r Gymuned a'r Gymuned yw'r Heddlu” am fod hynny'n adlewyrchu'r ymdeimlad o gymuned sydd wedi bod yn gryfder i ni yng Nghymru drwy gydol y pandemig. Oni bai bod ymdeimlad o hunaniaeth â phob cymuned, llu meddiannol yw'r heddlu yn hytrach na heddlu'r cyhoedd ac mae'n amhosibl creu ymdeimlad o gymuned o bell neu hyd braich.

Yr egwyddor allweddol arall a nodwyd gan Syr Robert Peel oedd mai cyfrifoldeb cyntaf yr Heddlu yw ATAL troseddau. Dywedir weithiau mai absenoldeb troseddau sy'n dangos llwyddiant plismona yn hytrach na phresenoldeb gweithgarwch. Dyma'r ymagwedd Iechyd y Cyhoedd at drosedd a niwed – egwyddor nad yw'n ymddangos yn aml iawn mewn dramâu'r heddlu ar y teledu oherwydd, yn ei hanfod, nid yw atal yn arwain at olygfeydd cyffrous lle bydd yr heddlu'n mynd ar ôl troseddwyr neu lle bydd pobl yn ymladd neu lle gellir gweld troseddau'n cael eu cyflawni. Mae'n egwyddor sydd wrth wraidd rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac mae'r pedwar Comisiynydd yng Nghymru wedi'i choleddu mewn ffordd frwdfrydig a llwyddiannus.

Yn wir, mae anogaeth Syr Robert i'r heddlu yn annog gwaith partneriaeth oherwydd anaml iawn y gall yr heddlu ar ei ben ei hun atal rhai o'r enghreifftiau mwyaf o niwed sy'n effeithio ar ein cymunedau fel camddefnyddio sylweddau, trais a cham-drin domestig, troseddau casineb, caethwasiaeth fodern, trais ar strydoedd ac ati.

Dyna pam y cyflwynodd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn ogystal â threfniadau cydweithio drwy'r Timau Troseddau Ieuenctid a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. “Gyda'n gilydd, rydym yn cyflawni mwy nag y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain” ac mae honno'n egwyddor sy'n gweithio. Wrth gwrs, mae'r Prif Gwnstabl yn ymddiried yn y tîm lleol i ddangos arweinyddiaeth a sgiliau wrth gyfrannu at y partneriaethau hynny ond bydd y rhain – a'u partneriaid ym maes llywodraeth leol a'r GIG a'r sector gwirfoddol a'r cyhoedd yn gyffredinol – yn disgwyl gwybod bod y Prif Gwnstabl yn eu gwerthfawrogi'n bersonol.

Mae'r ystyriaeth graidd yr un peth: Os yw'r hierarchaeth yn rhy hir, os oes gormod o ddolenni yn y gadwyn, os caiff y llwybr ei ehangu..... yna caiff egwyddorion plismona eu hymestyn y tu hwnt i'r eithaf.

Allen ni greu un Heddlu yng Nghymru? Gallem, ond yna, fel yn yr Alban, gallem dreulio degawd yn ceisio dad-wneud neu leihau'r niwed yn lle adeiladu ar ein stori o lwyddiant yma yng Nghymru sy'n deillio o drefniadau partneriaeth a chydweithio.

Beth am wneud pethau yn ein ffordd ein hunain a manteisio ar ein cryfderau fel cenedl, er mwyn popeth. Nid oes angen i ni ailadrodd camgymeriad dim ond am fod yr Alban wedi gwneud hynny. Does bosibl nad oes gennym yr hyder a'r aeddfedrwydd i wneud penderfyniadau Cymreig i Gymru erbyn hyn?
Ar ôl i blismona gael ei ddatganoli, bydd un Gweinidog Plismona i Gymru – rwy'n siŵr o hynny – a dyna ble bydd angen dwyn y llinynnau cyfrifoldeb am blismona ynghyd, o fewn Llywodraeth Cymru. Dylai Prif Gwnstabl sy'n credu y dylai'r rôl gyffredin gael ei dal gan swyddog gweithredol wybod mai rôl wleidyddol yw hon ac mai'r Gweinidog hwnnw ddylai ddwyn y llinynnau ynghyd a sicrhau atebolrwydd democrataidd. Nid rôl i Brif Gwnstabl mohoni.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >