res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Tîm y Comisiynydd

Caiff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, ei gefnogi gan dîm bach o staff, sy’n ei gynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau.

Ym mis Tachwedd 2016 cafodd Emma Wools ei phenodi’n Ddirprwy Gomisiynydd ar secondiad o’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru (NOMS), a gafodd ei gadarnhau gan Banel yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar 18 Hydref 2016. Mae’r penodiad hwn yn bodloni’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer y rôl hon ac mae’n llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan y Dirprwy Gomisiynydd blaenorol, Sophie Howe, a ddaeth yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru.

Uwch Staff
Staff
Demograffeg y Tîm (ym mis Medi2023, ac eithrio Swyddi Gwag)
 
Cyfanswm Nifer y Staff: 60 (Gan gynnwys secondiadau o'r tu allan ac eithrio secondiadau allanol)
Rhyw: Benyw – 43, Gwryw – 9
Aelodau o staff ag anabledd: 9

Aelodau o staff o gefndir lleiafrifoedd ethnig: 4

Staff y prif gwnstabl ar secondiad
 

Mae secondio swyddog yr heddlu i weithio fel swyddog staff i'r Comisiynydd yn cyflawni 3 diben:

    1. Darparu cymorth uniongyrchol gan swyddog yr heddlu sy'n deall gweithrediadau'r heddlu ar y pen blaen ac sy'n aml yn gallu helpu i esbonio'r ffordd yr ymdrinnir â materion yn uniongyrchol yn ystod cyfarfodydd yn hytrach na thrwy ohebiaeth hwyrach.
    2. Mae gwybodaeth weithredol swyddog yn aml yn ein galluogi i gyfeirio pobl at y lle iawn o fewn Heddlu De Cymru ar gyfer delio â materion a chael atebion cyflym i ymholiadau syml nad ydynt yn gofyn am sgwrs rhwng y Comisiynydd a'r Prif Swyddogion.
    3. Mae'n cynnig cyfle datblygu i'r swyddog sydd wedi'i secondio a fydd yn Rhingyll profiadol fel arfer sy'n awyddus i gael ei ddyrchafu yn Arolygydd ac a fydd, felly, yn elwa o natur strategol y cyfarfodydd y mae'n mynd iddynt gyda'r Comisiynydd, ac yn datblygu ymwybyddiaeth o bartneriaid y mae'r Comisiynydd yn gweithio gyda nhw ym maes Llywodraeth Leol, y GIG, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o gyrff statudol a gwirfoddol.

 

 

 

 





 

 

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…

Gweld mwy >