Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Mae eich Comisiynydd, Alun Michael, yn gyfrifol am roi llais i'r cyhoedd ym maes plismona yn Ne Cymru. Mae cyfarfod â phobl, siarad â phobl a gwrando i gyd yn bwysig er mwyn helpu'r Comisiynydd i ddeall materion yn ymwneud â phlismona a diogelwch cymunedol sydd o bwys i gymunedau ledled De Cymru.
Drwy glywed yn uniongyrchol gan bobl yn yr ardal, gall y Comisiynydd ddwyn Heddlu De Cymru i gyfrif yn effeithiol ar ran y cyhoedd, gan sicrhau bod yr heddlu'n darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
Drwy gydol y flwyddyn, mae'r Comisiynydd yn cynnal nifer o grwpiau ffocws cymunedol ac ymweliadau, arolygon a digwyddiadau cyhoeddus i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i rannu eich barn ar faterion yn ymwneud â'ch plismona lleol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithgarwch ymgysylltu rydym wedi'i gynnal a'r materion a'r pynciau a drafodwyd gyda ni yn ein hadroddiadau Ymgysylltu Cymunedol Blynyddol isod:
Adroddiad Ymgysylltu Blynyddol 2020-21 | Fersiwn Hygyrch | |
Adroddiad Ymgysylltu Blynyddol 2019-20 |
Os hoffech chi gynnwys y Comisiynydd neu ei dîm mewn digwyddiad lleol rydych chi'n ei drefnu, gofynnwch iddo gyfarfod â grŵp cymunedol lleol, neu roi mewnbwn mewn digwyddiad, cysylltwch â ni ar:
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >