Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2023-2027 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Ymgysylltu ar gymuned Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruComisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru
Y Comisiynydd sy'n gyfrifol am bennu cyllideb Heddlu De Cymru a phenderfynu pa arian pellach sydd angen ei godi o'r tâl ychwanegol ar dreth y cyngor. Gelwir hyn yn 'praesept' yr heddlu ac mae'n cyfrif am bron i hanner cyllid Heddlu De Cymru, gyda'r gweddill yn dod o'r Llywodraeth.
Bydd adborth yn helpu'r Comisiynydd i benderfynu beth fydd y cyhoedd yn ei dalu am blismona drwy eu treth gyngor.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael: “Wrth bennu'r praesept, mae'n bwysig fy mod yn ymgynghori â threthdalwyr lleol er mwyn deall barn y cyhoedd o ran yr hyn y maent yn barod i'w dalu am wasanaethau plismona yn Ne Cymru.
“Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu nifer o gartrefi yn broblem fawr, ond mae'r un pwysau ariannol sy'n effeithio ar bobl gyffredin, fel cynnydd yng nghostau tanwydd ar gyfer cerbydau a chartrefi a chostau'r gadwyn gyflenwi, wedi cael effaith fawr ar gyllidebau'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, diolch i ddull ‘arian gwastad’ y Llywodraeth o ariannu gwasanaethau plismona. Mae'r Llywodraeth wedi trosglwyddo baich plismona oddi ar y llywodraeth ganolog i drethdalwyr lleol, ac mae'n parhau i wneud hynny. Mae'n rhaid i'r bwlch hwnnw mewn cyllid gael ei bontio rywsut – mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnom i fantoli'r cyfrifon.”
“Bydd y grant ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr yn cael ei gyhoeddi gan un o Weinidogion y Swyddfa Gartref ychydig cyn y Nadolig. Yna, bydd yn rhaid i mi bennu'r gyllideb a rhoi gwybod i Banel yr Heddlu a Throseddu am y praesept arfaethedig erbyn mis Chwefror 2024.
“Mae De Cymru yn un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, ond mae'r pwysau sylweddol ar blismona a gwasanaethau eraill yn golygu bod angen ystyried lefel y dreth gyngor sydd ei hangen i gefnogi cymunedau a mynd i'r afael â bygythiadau troseddau newydd yn ofalus iawn.
“Wrth bennu'r praesept ar gyfer 2024 / 2025, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gydbwyso fforddiadwyedd â sicrhau bod gan Heddlu De Cymru y cyllid i barhau i gadw cymunedau'n ddiogel.”
SBARIWCH YCHYDIG FUNUDAU A RHANNWCH EICH ADBORTH TRWY GYMRYD RHAN YN EIN HAROLWG:
Os hoffech gael copi papur o'r arolwg, cysylltwch â ni drwy:
E-bost - engagement@south-wales.police.uk
Ffon - 01656 869 366
Post - Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Pencadlys Heddlu, Cowbridge Road, Pen-y-bont, CF31 3SU.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >