Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2023-2024 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Ymyrraeth Camddefnydd Sylweddau Tîm Polisi a Phartneriaeth Future 4 Action FraudMae camfanteisio’n rhywiol yn gyfystyr â cham-drin plant. Caiff dioddefwyr eu defnyddio neu eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, yn aml yn gyfnewid am sylw, anwyldeb, arian, cyffuriau, alcohol neu lety.
Gall unrhyw berson ifanc o unrhyw gefndir fod yn destun camfanteisio rhywiol. Mae’n digwydd i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a menywod ifanc.
Nid yw plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn wirfoddol – cânt eu gorfodi i gymryd rhan gan oedolion neu gyfoedion treisgar sy’n cyflwyno eu hunain fel ‘ffrind’ neu ‘gariad’.
Gall pobl ifanc gael eu targedu gan y sawl sy’n eu cam-drin ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Yn aml, nid yw plant a phobl ifanc sy’n destun camfanteisio rhywiol yn gwybod bod rhywun yn camfanteisio arnynt.
Fodd bynnag, mae nifer o arwyddion sicr y gall plentyn fod yn cael ei baratoi ar gyfer camfanteisio rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Pwysig: Os ydych yn gwybod neu’n amau bod plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ddeialu 999 yn syth.
Os ydych yn amau y gall plentyn fod mewn perygl, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, byddai’n well gennym siarad â chi dros y ffôn (gallwch ein ffonio ar 101) neu wyneb yn wyneb.
Siaradwch â’r heddlu. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich cymryd o ddifrif ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, neu os oes angen cyngor neu gymorth arnoch, gallwch ddefnyddio’r cysylltiadau canlynol:
Barnardo’s
Mae Barnardo’s, yr elusen i blant, yn helpu plant a theuluoedd y mae materion fel camfanteisio rhywiol a cham-drin domestig yn effeithio arnynt.
Bob blwyddyn, mae camfanteisio rhywiol yn effeithio ar filoedd o blant ledled y DU. Mae’r rhyngrwyd a dyfeisiau symudol yn golygu ei bod hyd yn oed yn haws i oedolion dwyllo plant sy’n agored i niwed. Mae canllaw Barnardo’s, sydd am ddim, yn dweud wrthych sut y gallwch sylwi bod plentyn mewn perygl, a’i helpu i’w gadw’n ddiogel.
I gael eich canllaw am ddim ac i ddysgu sut i sylwi ar yr arwyddion, tecstiwch SAFE i 82727 neu ffoniwch 0800 038 2531. Codir tâl am un neges destun neu un alwad ar gyfradd safonol y rhwydwaith.
NSPCC
Mae’r NSPCC yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i blant ac oedolion, gan gynnwys llinellau cymorth cenedlaethol sydd wedi’u staffio gan gwnselwyr llinell gymorth wedi’u hyfforddi a all roi help a chyngor 24/7.
0800 1111 (ChildLine)
0808 800 5000 (Cymorth i rieni a gofalwyr)
Thinkuknow
Mae gwefan Thinkuknow yn wefan arbennig i blant a phobl ifanc ac yn rhoi cyngor gonest ac agored ar bynciau gan gynnwys rhyw a chydberthnasau, a’r rhyngrwyd.
Canolfan ddiogelwch CEOP
Os bydd rhywun wedi ymddwyn yn amhriodol tuag atoch chi neu tuag at blentyn, person ifanc neu rywun rydych yn ei adnabod ar-lein, dysgwch beth i’w wneud a sut i roi gwybod i’r heddlu, drwy fynd i ganolfan ddiogelwch CEOP.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >