Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Eitemau Perthnasol
Adolygiad Thematig Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Troseddau Casineb Stopio a Chwilio Adolygiadau Thematig ar Gydraddoldeb Gweithio â PhartneriaidCyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2023-2024 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Ymyrraeth Camddefnydd Sylweddau Tîm Polisi a Phartneriaeth Future 4 Action FraudEin gweledigaeth yw mai Heddlu De Cymru ‘fydd y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt’. Gwyddom na ellir sicrhau hynny heb roi blaenoriaeth i gydraddoldeb ac amrywiaeth a gweithio i sicrhau canlyniadau gwirioneddol.
Rydym yn cydnabod bod bob amser llawer mwy y gellir ei wneud er mwyn sicrhau y gall pawb yn Ne Cymru fyw heb ddioddef aflonyddu, camwahaniaethu, anghydraddoldeb nac anfantais. Gobeithiwn y bydd ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb yn dod â ni’n agosach at gyflawni’n gweledigaeth drwy adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes o safbwynt hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cynllun Cydraddoldeb at y Cyd
Wrth gyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd 2019-23, rydym yn dangos ein bod yn benderfynol o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cyflawni’n prif amcanion cydraddoldeb. Mae’r ddogfen honno’n nodi’n cynlluniau i sicrhau bod pwyslais digonol ar gydraddoldeb a bod cynnydd yn cael ei fonitro’n barhaus.
Yr amcanion cydraddoldeb a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb hwn yw’r rhai rydym wedi eu dewis fel y prif feysydd y mae angen i ni weithio arnynt i gyflawni’n hamcanion o dan y Ddyletswydd Gyffredinol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Maent hefyd wedi’u hadnabod mewn ymgynghoriad â chyrff cynrychiadol.
![]() |
Mae fersiwn hawdd ei darllen o'n Cynllun Cydraddoldeb hefyd ar gael yma |
Diweddariadau ar Gynnydd
Caiff cynnydd yn erbyn amcanion ei amlinellu yn ein hadroddiadau blynyddol a'n gwybodaeth fonitro flynyddol. Mae'r Comisiynydd yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar gynnydd ac yn craffu ar ganlyniadau.
Gellir gweld gwybodaeth am fonitro a chydraddoldeb o flynyddoedd blaenorol isod:
Heddlu De Cymru Adroddiad Ar Y Bwlch Cyflog Rhwng Y Rhywiau 2020
Bydd y Strategaeth Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-2027 newydd ar gael cyn diwedd 2023.
Neddf Cydraddoldeb
Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n gwneud ymdrech i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio â ni neu’n ymwneud â ni’n cael eu trin yn deg a chyda parch ac nad ydynt yn dioddef camwahaniaethu ar sail unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010:
• Oedran
• Anabledd (gan gynnwys anableddau corfforol a meddyliol, nam ar y synhwyrau ac anableddau dysgu)
• Ailbennu Rhywedd
• Priodas neu Bartneriaeth Sifil
• Beichiogrwydd a Mamolaeth
• Hil (yn cynnwys hil, lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig)
• Crefydd a chred
• Rhyw
• Cyfeiriadedd Rhywiol
Wrth gyflawni ei swyddogaethau mae’r Comisiynydd a Heddlu De Cymru yn dalu sylw priodol i’r angen i wneud y canlynol:
1) Dileu camwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall mae’r Ddeddf yn ei wahardd neu sy’n waharddedig dani;
2) Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno;
3) Hybu perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.
Mae’r Ddyletswydd Gyffredinol yn gymwys ar gyfer pob nodwedd warchodedig heblaw priodas a phartneriaeth sifil. Fodd bynnag, erys dyletswydd i ddileu camwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar gyfer y nodwedd honno.
Cydraddoldeb a Chynhwysiant - Ein Blaenoriaethau
Dyma rai o'r meysydd blaenoriaeth eraill y mae'r Comisiynydd a'i dîm yn canolbwyntio arnynt o ran cydraddoldeb a chynhwysiant:
Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru
Ar 8 Medi 2022, Cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth
Mae'r cynllun yn amlinellu penderfyniad partneriaid ledled Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu unrhyw hiliaeth yn y system cyfiawnder yng Nghymru
Lawrlwythwch y Cynllun yma.
Safonau Cymraeg
Yng Nghymru, rydym hefyd yn cydnabod yr Iaith Gymraeg fel maes cydraddoldeb. I gael rhagor o wybodaeth am ein dyletswyddau iaith Gymraeg, cliciwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar gydraddoldeb a chynhwysiant, cysylltwch â Charlotte Amoss (charlotte.amoss@south-wales.police.uk neu 01656 869366).
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >