Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Mehefin '22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Mae adrodd am droseddau casineb yn gwneud gwahaniaeth – i chi, i’ch ffrindiau ac i’ch bywyd.Beth yw trosedd casineb? Weithiau bydd troseddau casineb yn dechrau fel digwyddiad casineb. Gelyniaeth yw hanfod digwyddiad casineb, a chaiff ei ysgogi gan anabledd, hil, crefydd, trawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae sawl math o ddigwyddiad casineb, gan gynnwys difrïo, bygwth trais, bwlio, codi ofn neu gam-drin ar-lein. Pan gaiff trosedd ei chyflawni, bydd digwyddiad casineb yn troi'n drosedd casineb. Os torrir y gyfraith cyflawnir trosedd, a gall hyn gynnwys ymosod ar rywun, ei aflonyddu, gwneud difrod troseddol neu anfon negeseuon casineb yn y post.
Pam y dylech chi adrodd am ddigwyddiad neu drosedd casineb? Os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld trosedd neu ddigwyddiad casineb, neu wedi dioddef hynny, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'r heddlu. Bydd ein swyddogion yn eich cymrud o ddifrif ac yn helpu i wneud i chi deimlo’n ddiogel. Drwy roi gwybod i'r heddlu, ni fyddwch yn gorfod cymryd camau pellach, ond bydd yn eich galluogi i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd hefyd yn golygu na fydd yn digwydd i chi eto, neu i rywun arall. Mae rhoi gwybod am drosedd neu ddigwyddiad casineb i Heddlyu De Cymru yn syml. Os nad yw'n achos brys gallwch ffonio 101 a siarad â'n staff profiadol iawn yn y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus. Os yw'n argyfwng, dylech ffonio 999. Gallwch hefyd fynd i'ch gorsaf heddlu leol, siarad â swyddog neu PCSO sydd ar batrôl, neu roi gwybod ar-lein. Os byddwch yn rhoi gwybod am rywbeth, bydd un o'n swyddogion yn cysylltu â chi er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd. Byddwch hefyd yn cael Swyddog Troseddau Casineb penodol, a fydd yn tawelu eich meddwl ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Pan fyddwn wedi gorffen ein hymchwiliad, gallwch ddweud wrthym beth hoffech chi ei wneud nesaf. Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau lleol eraill fel Cymorth i Ddioddefwyr, a all helpu efallai.
I adrodd am drosedd pan nad yw’n fater brys, ffoniwch 101 a chewch siarad ag aelod o Heddlu De Cymru, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Nid oes raid i chi roi eich manylion personol, ond cyfyngir ar yr ymchwiliad a’r gallu i erlyn y troseddwr/troseddwyr os na all yr heddlu gysylltu â chi. Ar ôl adrodd, bydd Swyddog Troseddau Casineb, a gafodd ei hyfforddi i ddeall troseddau casineb a’r ffordd maent yn effeithio ar bobl, yn cysylltu â chi ac yn eich cynorthwyo. Anogir dioddefwyr bob amser i gysylltu â’r heddlu ond gallwch adrodd am y digwyddiad i Gymorth Dioddefwyr yn uniongyrchol ar 08456 121 900 24/7 ac fe gynigir gwasanaethau cymorth i chi o fewn 48 awr. Gallwch hefyd adrodd ar-lein drwy wefan www.reporthate.victimsupport.org.uk lle gellir gweld rhagor o wybodaeth a chyngor. |
![]() |
Cwestiynau Cyffredin |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…
Gweld mwy >Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafe…
Gweld mwy >