Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2023-2024 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Ymyrraeth Camddefnydd Sylweddau Tîm Polisi a Phartneriaeth Future 4 Action FraudHeddlu De Cymru
Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2023-2024
Yn unol ag Adran 54 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Prif Gwnstabl yn cydnabod eu cyfrifoldeb fel cyflogwr i fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o achosion o gaethwasiaeth fodern ac i roi gwybod i'r cyrff perthnasol am achosion neu bryderon o'r fath. Ategir y datganiad hwn gan gynllun gweithredu lleol.
Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2023 i ganfod, atal a rhoi sylw i gaethwasiaeth fodern ar draws yr heddlu a'i gadwyni cyflenwi.
Beth yw Caethwasiaeth Fodern?
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae’n dod ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, cam-fanteisio rhywiol, llafur gorfodol a masnachu pobl, a'r hyn sy'n gyffredin rhwng y rhain i gyd yw bod rhywun yn amddifadu rhyddid unigolyn er mwyn cam-fanteisio arno er budd personol neu fasnachol.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Prif Gwnstabl yn ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn rhan o gadwyni cyflenwi'r heddlu neu'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw weithgareddau y mae Heddlu De Cymru yn ymwneud â nhw. Mae polisïau, gweithdrefnau a'n gwaith i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern trwy weithgor yn dangos ein hymrwymiad i weithredu'n foesegol, gydag uniondeb ac i ganfod risgiau y gallwn weithio i'w lliniaru.
Yn 2017, ymrwymodd comisiynwyr yr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru i God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru. Mae Heddlu De Cymru yn gwbl ymroddedig i frwydro yn erbyn arferion cyflogaeth anfoesegol neu anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi. Mae cynllun gweithredu i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cod yn ategu’r ymroddiad hwn.
Gellir rhannu ein dull o ganfod a mynd i'r afael â'r materion hyn yn bedwar prif faes:
Gorfodaeth – bydd Heddlu De Cymru'n sicrhau gorfodaeth ac yn defnyddio ein swyddogaethau cyflogi a phrynu nwyddau a gwasanaethau i wella'r gwaith o gasglu cudd- wybodaeth a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Cod Ymarfer, yn ogystal â gweithredu'n brydlon ar ôl derbyn gwybodaeth.
Nod polisi Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu, a bennwyd gan y tîm Prif Swyddogion ac a gymeradwywyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yw lleihau'r risg o niwed difrifol i ddioddefwyr a gwella eu diogelwch, iechyd a lles.
Mae'r polisi'n amlinellu sut y bydd troseddau caethwasiaeth fodern yn cael eu trin a sut y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd. Ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyrff eraill, byddwn yn ymdrechu i erlyn troseddwyr yn llwyddiannus, gyda'r nod o wella ymddiriedaeth a hyder dioddefwyr.
Mae swyddogion rheng flaen yn derbyn hyfforddiant cadarn ac mae Arolygwyr yn gyfrifol am gyd-gysylltu'r ymateb i hysbysiadau a phresenoldeb mewn digwyddiadau, gan leihau'r risg uniongyrchol a diogelu tystiolaeth sydd ar gael.
Caffael moesegol – hybu datblygu cadwyni cyflenwi moesegol wrth gyflenwi contractau ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn gyffredinol ac yn benodol yn Heddlu De Cymru.
Cyflogaeth - dilyn arfer gorau a dangos ymrwymiad llwyr i welliant parhaus o fewn systemau a strwythurau Heddlu De Cymru, yn ogystal â gweithio gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru i ganfod a dileu unrhyw ffurf ar gam-fanteisio.
Amgylchedd - byddwn yn annog y cyhoedd i hysbysu am unrhyw arwyddion o gam-fanteisio yn ei holl ffurfiau a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, y GIG a grwpiau gwirfoddol a chymunedol i godi ymwybyddiaeth o arwyddion cam-fanteisio a hysbysu amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod ein holl staff - yn arbennig swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a staff yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus - yn gwbl ymwybodol o'r hyn y dylid edrych amdano a'r hyn y dylid ei wneud pan fyddant yn cael eu hysbysu am bryderon.
Rydym yn cydnabod bod caethwasiaeth fodern yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'n ffiniau cenedlaethol a bod risgiau'n cynyddu gyda chadwyni cyflenwi cymhleth.
Mae adolygiad dechreuol o'n cadwyni cyflenwi wedi dangos risg posibl o gaethwasiaeth fodern mewn amryw o gategorïau gan gynnwys y canlynol:
Rydym yn sylweddoli y gall caethwasiaeth fodern ddigwydd, ai'i fod yn digwydd, mewn nifer o gategorïau eraill ac rydym yn mapio ein cadwyni cyflenwi yn defnyddio dull asesu risg i ganfod y meysydd y dylem fod yn eu blaenoriaethu yn rhan o'n hymateb ymarferol i risgiau caethwasiaeth fodern.
Mae ymchwilio'n drwyadl i gadwyni cyflenwi'n waith cymhleth ond yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cyhoeddi holiaduron asesu cyflenwyr i 19 o gyflenwyr eraill, gan ddod a chyfanswm yr holiaduron a gyhoeddwyd i 79, a rhoddwyd dosbarthiad i 63 o gyflenwyr. Nodwyd bod y cyflenwyr a ddewiswyd yn rhai risg uwch oherwydd y math o ddiwydiant, natur y gweithlu, lleoliad y cyflenwr, y math o nwyddau neu lefel ein gwariant, neu maent yn gyflenwyr yr ydym wedi dyfarnu contract iddynt yn ddiweddar a chyflwynwyd yr asesiad yn rhan o'n gwaith rheoli contract.
Rydym wedi ymroi i rannu gwybodaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau. Trwy weithio gyda heddluoedd eraill a sefydliadau partner yng Nghymru ac yn lleol gallwn ymchwilio'n fwy trwyadl i gadwyni cyflenwi yn seiliedig ar y risg mwyaf o gam-fanteisio ar bobl.
Byddwn yn parhau i weithio i godi ymwybyddiaeth o faterion caethwasiaeth fodern ledled ein cadwyn gyflenwi. Mae ein cynllun gweithredu'n cynnwys targed i asesu'r 100 uchaf o gyflenwyr ar draws Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent erbyn 2025 ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni hyn.
Diwydrwydd Dyladwy ac Asesu Risg
Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i ddatblygu'r gwaith hwn i gyflawni'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac a gofnodwyd yn ein cynllun gweithredu lleol ar gyfer 2022-23.
Polisi
Gweithdrefnau caffael
Ystadegau Perfformiad o ran Taliadau
Asesu cyflenwyr a chadwyni cyflenwi presennol
Hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth
Cyflog Byw Enillodd Heddlu De Cymru achrediad Cyflogwr Cyflog Byw ym mis Mawrth 2022.
Mae'r Cyflog Byw yn gyfradd gwirfoddol fesul awr a bennir gan y Living Wage Foundation yn seiliedig ar gostau byw yn y DU. Mae'r Living Wage Foundation yn annog sefydliadau i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Prif Gwnstabl yn defnyddio'r gyfradd hon ar gyfer pob swyddog a staff. Anogir cyflenwyr i fabwysiadu'r Cyflog Byw a gallant ddangos tystiolaeth o hyn wrth ymateb i'r cwestiwn arfer gweithio teg mewn unrhyw wahoddiad i dendro perthnasol.
Adroddiadau
Bydd adroddiadau ar gynnydd yn cael eu rhoi i'r Prif Swyddog Cyllid fel yr Hyrwyddwr Gwrth- gaethwasiaeth a Moesegol ar gyfer Heddlu De Cymru.
Hysbysu am Bryderon
Mae gan y cyhoedd a staff yr un cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o achosion posibl o gaethwasiaeth fodern neu fusnes sy'n defnyddio llafur gorfodol. Os oes gennych unrhyw bryderon o'r fath, cysylltwch ag un o'r cyrff canlynol:
Heddlu De Cymru: Ffôn 101 (neu 999 mewn argyfwng) Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: Ffôn 0800 0121700 Crimestoppers: Ffôn 0800 555 111
Llinell Gyfrinachol ar gyfer Pryderon (o fewn Heddlu De Cymru yn unig) Lawrlwythwch yr Ap 'Unseen' am ddim
Mae'r Datganiad hwn wedi'i gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Prif Gwnstabl. Caiff ei adolygu a'i ddiweddaru’n flynyddol
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >