Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Mehefin '22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Helpwch Ni i Helpu Chi Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2021-2022 Lleihau Troseddu ac Aildroseddu yn y Grŵp Oedran 18-25 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Dyfodol Tîm Polisi a Phartneriaeth Future 4Addasiadau i waith Dyfodol yn sgil yr achosion o goronafeirws – Diweddarwyd 08 Ebrill 2020
Adroddiad Blynyddol 2019-2020
Diweddariad
Trosolwg
• Dylech osgoi casglu mewn grwpiau a mannau poblog, fel tafarnau, clybiau a theatrau
• Dylech weithio o gartref os yw'n bosibl
• Peidiwch ag ymweld â ffrindiau a pherthnasau mewn cartrefi gofal yn “ddiangen”.
• Dylech ond ddefnyddio’r GIG pan fo wir ei angen arnoch – a gallwch leihau’r baich ar weithwyr drwy gael cyngor ar wefan y GIG lle y bo’n bosibl
• Arhoswch gartref am 14 diwrnod os oes gan un person mewn unrhyw aelwyd beswch cyson neu dwymyn
At hynny, ddydd Mercher 18 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau am gyfnod estynedig o 20 Mawrth 2020.
Rydym yn wynebu her enfawr gyda’r mesurau hyn; mae ein gwasanaeth yn canolbwyntio ar bobl.
Ein blaenoriaethau allweddol yw:
• Parhad Gwasanaethau Rhagnodi i gadw pobl sy’n dibynnu ar gyffuriau yn sefydlog ac yn ddiogel
• Parhad gwasanaeth/cychwyn gwasanaeth i bobl sy’n gadael y carchar ac atgyfeiriadau eraill â blaenoriaeth
• Cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n agored i niwed ac sy’n ansefydlog
Mae ein gwaith adsefydlu ehangach yn parhau i fod yn bwysig iawn a byddwn yn ystyried, yn ystod y dyddiau nesaf, sut y byddwn yn defnyddio ein timau i ddarparu cymorth effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth o bell. Yn ogystal, byddwn yn ystyried sut y gallwn fod yn arloesol ac yn greadigol o ystyried y cyfyngiadau rydym yn eu hwynebu.
Amlinelliad o brosesau gwneud penderfyniadau allweddol:
Er mwyn egluro'r prosesau sydd ar waith gennym oherwydd materion yn ymwneud â COVID-19, mae’n bwysig ein bod yn ymgynghori ac yn cydweithio â’n partneriaid consortiwm, gan gynnwys ein Byrddau Iechyd, ein Byrddau Cynllunio Ardal a'n cydweithwyr yn yr Heddlu a Llywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i staff sydd â chyflyrau sylfaenol (gweler y ddolen isod) weithio o gartref. Os oes gan aelodau o’r staff ferisynau o'r cyflyrau hyn nad ydynt mor ddifrifol, yna gellir gwneud y penderfyniad yn lleol ar y cyd rhwng y rheolwr a’r ymarferydd. Dylai gwaith craidd y rhai sy'n gweithio o gartref ddechrau gyda chysylltu â defnyddwyr gwasanaeth dros y ffôn, gweithio ar Palbase, CSPs a chyfleusterau o bell eraill, ac yna ymestyn i hyfforddiant ar-lein (e.e. Hyfforddiant Diogelu Llywodraeth Cymru) ac ymchwil a datblygu ymyriadau.
Mae angen i aelodau o staff sy’n dangos symptomau neu sydd â phobl sy’n dangos symptomau yn eu haelwydydd aros gartref am 14 diwrnod. Os nad ydynt yn sâl, mae’n bosibl y gall y staff hyn weithio o gartref.
Bydd aelodau o staff sy’n iach ac nad oes ganddynt gyflyrau sylfaenol yn aros yn y gweithle, ond gwneir trefniadau er mwyn cyfyngu ar eu hamser yn y gweithle ac felly hefyd eu cyswllt â phobl eraill. Cyflawnir hyn drwy’r canlynol:
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…
Gweld mwy >Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafe…
Gweld mwy >