Resize Text:

Switch to:

Helpwch Ni i Helpu Chi

Os ydych wedi dioddef trais, ni waeth pwy ydych chi, sut na phryd y cawsoch eich niweidio, mae Heddlu De Cymru yma i’ch helpu chi.

Bydd staff arbenigol yn eich cefnogi drwy:

  • Wrando ar eich profiad
  • Esbonio’r holl opsiynau sydd ar gael i chi
  • Gweithio gyda chi i gytuno ar yr hyn sy’n digwydd nesaf
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Nid yw cysylltu â’r heddlu yn eich ymrwymo i gymryd unrhyw gamau pellach.

Fodd bynnag, drwy roi gwybod am yr hyn ddigwyddodd i chi, efallai y gallwch ei atal rhag digwydd eto neu atal rhywun arall rhag cael ei niweidio.

Os ydych wedi cael eich niweidio neu wedi gweld rhywun arall yn cael ei niweidio, ffoniwch 101 unrhyw bryd. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.

Ble y gallwch gael help a chefnogaeth?

Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn wasanaeth lleol a gaiff ei redeg gan yr elusen genedlaethol ac annibynnol, Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae ei staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cynnig help a chefnogaeth i unrhyw y mae trosedd wedi effeithio arno.

Gallant hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill yn yr ardal a all eich helpu.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar: 0300 303 0161
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 8am – 8pm
Dydd Sadwrn: 9am – 5pm
Ewch i’n gwefan: www.ffocwsdioddefwyrdecymru.org.uk
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol y tu allan i’n horiau gweithredu, sydd ar gael 24 awr: 0808 16 89 111

Y newyddion diweddaraf

Cynllun chwaraeon yn dod â buddion enfawr i Gaerdydd

Mae partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol mewn tr…

Gweld mwy >

100 Swyddog Cymorth Cymunedol newydd i’r Heddlu yn cael eu hariannu gan Lywodrae…

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu 100 Swyddog Cymorth Cymunedol arall i’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â throseddau a …

Gweld mwy >

Adolygiad annibynnol i helpu i gefnogi cymunedau clos

Mae adolygiad ar y cyd annibynnol yn cael ei sefydlu fel rhan o fesurau i gefnogi cymuned yn Abertawe.

Caiff yr adolygiad ei arwain gan banel tri aelo…

Gweld mwy >