Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Medi'22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd yn cwmpasu chwe phrif faes â blaenoriaeth ar gyfer plismona dros y pum mlynedd nesaf. Er bod gorgyffwrdd clir rhwng pob un o’r meysydd, caiff y gwaith o fynd i’r afael â throseddau treisgar ei gwmpasu gan Flaenoriaeth 1 ar hyn o bryd, sef ‘Byddwn yn gostwng ac yn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a’u cymunedau’.
Mae’r ffrwd waith Troseddau Treisgar yn gorgyffwrdd â phartneriaid Heddlu De Cymru, ac yn rhan sylweddol o waith Byrddau Cynllunio Ardal, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Integredig Unigol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol o fewn ffiniau’r heddlu.
Mae gweithio gyda’n partneriaid i ostwng troseddu treisgar yn hollbwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ni allwn fynd i’r afael â’r broblem hon ar ein pen ein hunain.
Mae’r dull gweithredu hwn yn cynnwys tair thema strategol sy’n allweddol er mwyn gostwng troseddu treisgar, sef:
I gael rhagor o wybodaeth am y canlyniadau hyn a’n gwaith gyda phartneriaid, cliciwch yma.Darllenwch am y ffordd mae Comisiynwyr yn helpu i fynd i'r afael â Thrais Difrifol ledled Cymru a Lloegr drwy bartneriaeth ac arloesedd, gan gynnwys rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn lleol i greu De Cymru fwy diogel, yn yr adroddiad 'Ffocws' hwn
Daniel Jones, Arweinydd Polisi Strategol ar gyfer Gostwng Trais ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n arwain y prosiect hwn. Cysylltwch ag ef yn Daniel.jones10@south-wales.police.uk
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Alun Michael a'i dîm wedi llwyddo yn eu cais am gyllid gwerth bron £1.5 miliwn i gyflwyno cyfres o fent…
Gweld mwy >Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >