res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Trais yn Erbyn Menywod Genethod

Trosolwg

Mae Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn broblem ddifrifol mewn cymdeithas heddiw na allwn ei derbyn. Gall yr effaith fod yn ddinistriol, yn hirdymor ac mewn rhai achosion, yn angheuol i fenywod a merched, gan effeithio ar deuluoedd a chymunedau cyfan. Mae'r Prif Gwnstabl a'r Comisiynydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ledled ardal Heddlu De Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn cynnwys cynyddu hyder dioddefwyr i roi gwybod am drais yn eu herbyn, lleihau erledigaeth dro ar ôl tro a chreu dealltwriaeth well o'r angen i gymryd camau cadarnhaol wrth ymateb i'r drosedd hon.

Mae trais yn erbyn menywod yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu, a thrais ar sail “anrhydedd” fel y'i gelwir. Y gwirionedd pur yw bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef camdriniaeth ddomestig na dynion, sy'n cyferbynnu â phob math arall o droseddau treisgar lle mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr. Yn ystod 2019/20 rhoddwyd gwybod am 35,687 o achosion o gam-drin domestig yn Ne Cymru. O'r rhain, dioddefwr benywaidd oedd mewn 23,443 o'r achosion, ac o'r rhain, cofnodwyd 13,063 ohonynt fel troseddau.

 

Gyda Phartneriaid a'r Prif Gwnstabl, yn ddiweddar rydym wedi datblygu Mynd i'r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

Caiff Trais yn Erbyn Menywod a Merched ei ystyried fel blaenoriaeth yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar 4 prif faes:

  • Gwell Cydweithio
  • Atal ac Ymyrryd yn Gynnar
  • Diogelu
  • Cyflawnwyr

Adroddiad Blynyddol

Rydym wedi gweld llwyddiant drwy ariannu Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig/Rhywiol, sydd bellach yn eu swyddi ledled De Cymru, a chyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder £12 miliwn ychwanegol i ariannu'r gwasanaethau hyn rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2023. Mae ein cyllid hefyd yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Diweddariad COVID-19

  • Mae adolygiad o effaith COVID-19 ar Wasanaethau (De Cymru) wedi cael ei lunio. Mae hyn wedi llywio'r asesiad o anghenion ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder a nodi meysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach os bydd pandemig arall yn digwydd.  Mae hon yn ddogfen fyw ac mae wrthi'n cael ei diweddaru er mwyn cadarnhau'r datblygiadau diweddaraf.

 

DRIVE

Mae Drive yn gweithio gyda chyflawnwyr sy'n achosi llawer o niwed i leihau achosion o cam-drin ac i wneud dioddefwyr/goroeswyr yn fwy diogel. Cafodd ei ddatblygu fel rhan o bartneriaeth rhwng Respect, SafeLives, a Social Finance mewn cydweithrediad â MOPAC, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, awdurdodau lleol, a darparwyr gwasanaeth. Mae Drive yn herio'r naratif canolog ynglŷn â cham-drin domestig, gan ofyn "pam nad yw'n stopio" yn hytrach na "pam nad yw hi'n gadael"

Yn ystod 2020-21, cytunodd y Comisiynydd i  ehangu'r ddarpariaeth i bob un o'r saith ardal  awdurdod lleol yn Ne Cymru,  gyda chymorth cais  llwyddiannus am gyllid oddi wrth y  Swyddfa Gartref.

Mae DRIVE yn parhau i wireddu buddiannau sylweddol, gan gynnwys dioddefwyr yn nodi eu bod yn teimlo'n fwy diogel, ynghŷd â llai o aildroseddu gan gyflawnwyr, yn bennaf oherwydd gallu'r asiantaethau i weithio gyda'i gilydd mewn ymyriadau cefnogol a thrwy amharu.

Ffigurau blynyddol o bob rhanbarth (Ebrill 2022-Mawrth 2023)

 

 

Rhanbarth Cyflawnwyr yr Effeithiwyd arnynt Dioddefwyr yr Effeithiwyd arnynt Plant a Phobl Ifanc yr Effeithiwyd arnynt
Caerdydd a'r Fro 126 139 235
Pen-y-bont ar Ogwr 137 147 265
Ardal Orllewinol y Bae 99 104 235
Prif gyfanswm 362 390 735

 

Ein tîm

Paula Hardy – Arweinydd Strategol

Megan Stevens – Uwch Swyddog Polisi

Hannah Evans-Price – Swyddog Polisi

Naomi Evans - Swyddog Polisi

Natasha Hankey - Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi

Felicity Rushton - Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi

 

Gyda Phartneriaid a'r Prif Gwnstabl, rydym wedi datblygu Mynd i'r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

 

 

 

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…

Gweld mwy >