Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Mehefin '22)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
![]() |
Lansiodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddyfodiad IRIS (Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch) gyda Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru. Cynllun hyfforddi ac atgyfeirio cam-drin domestig a thrais rhywiol yn seiliedig ar feddygfeydd teulu yw IRIS. Dewiswyd yn ofalus 25 meddygfa ar draws Caerdydd a’r Fro i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. |
Mae adnabod trais a cham-drin domestig yn gynnar yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac i’r Comisiynydd, a darganfuwyd mai’r gwasanaethau iechyd yw’r ddolen bwysicaf i sicrhau hynny.
Bydd Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd yn ariannu partneriaid ym maes iechyd a phartneriaid arbenigol lleol i gydweithio i gyflwyno rhaglen IRIS dros y ddwy flynedd nesaf. Mae patrwm Caerdydd a’r Fro yn dibynnu ar ddau eiriolwr-addysgwr a fydd yn gweithio ar draws 25 o feddygfeydd ledled yr ardal.
Gweithwyr arbenigol ym maes trais a cham-drin domestig yw’r eiriolwyr-addysgwyr sydd wedi eu cysylltu â’r meddygfeydd ac yn gweithio o BAWSO a Chymorth i Fenywod Caerdydd. Byddant yn cynnig hyfforddiant i dimau yn y meddygfeydd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr hirdymor a hwy fydd y bobl y byddir yn atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol atynt ar gyfer eirioli arbenigol.
Rydym yn hybu adnabod cynharach ac atgyfeirio pobl yn gynt at gymorth priodol gan y gwyddom y bydd hynny’n effeithio ar y galw am wasanaeth yr heddlu ac yn rhwystro dioddef pellach. Bydd gweithredu.
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…
Gweld mwy >Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…
Gweld mwy >Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafe…
Gweld mwy >