Resize Text:

Switch to:

Brechiadau ar gyfer Swyddogion a Staff Rheng Flaen yr Heddlu: Datganiad ar y Cyd gan Arweinwyr yr Heddlu yng Nghymru

Wedi'i ddiweddaru: 12/02/2021

Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a staff rheng flaen yr heddlu gael brechiadau i'w hamddiffyn rhag COVID-19.

Rydym wedi gofyn yr un peth i'r Gweinidog dros yr Heddlu yn Llywodraeth y DU ac wedi ysgrifennu eto ato ef a'r Ysgrifennydd Cartref yn pwyso am ateb oherwydd, nid yn unig mae'r mater hwn yn effeithio ar Gymru, ond mae hefyd yn dibynnu ar y ffordd gyffredin o weithredu rhwng pedair gwlad y DU.

O ganlyniad i'n trafodaethau a'n gohebiaeth â Llywodraeth Cymru, mae'r Prif Weinidog wedi rhyddhau datganiad i swyddogion a staff yr heddlu.

Yn ein rôl fel arweinwyr yr heddlu, rydym wedi bod yn gofyn i Weinidogion ac uwch-swyddogion am eglurder gan bwysleisio ar yr un pryd mai ar ôl cael eu cynnig i bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddal yr haint y dylai brechiadau fod ar gael yn gyffredinol, fel y blaenoriaethwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ac y cytunwyd arno rhwng pedair llywodraeth y DU.

Ar ôl nodi bod pobl sy'n gweithio i gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn wynebu bygythiadau a risgiau penodol, gwnaethom ddadlau y dylid egluro ble maent yn sefyll o ran y blaenoriaethau ar gyfer brechu ac rydym hefyd wedi dadlau y dylent gael eu cynnwys ar restr wrth gefn ar gyfer defnyddio brechlynnau dros ben.

Rydym yn parhau i fod mewn deialog agos â Llywodraeth Cymru ac rydym hefyd yn parhau i bledio'r achos wrth Weinidogion y Swyddfa Gartref – gan ddadlau ei bod yn hanfodol deall yr heriau corfforol a wynebir ym maes plismona yn llawn ac i'r rhai sy'n ymdrin yn ddyddiol ag amgylchiadau heriol iawn gael eu hamddiffyn yn ystod argyfwng parhaus COVID-19.

Mae anghysondeb yn y defnydd o frechlynnau dros ben wedi peri pryder cyffredinol ledled Cymru a Lloegr ac rydym wedi dadlau o blaid ‘rhestrau wrth gefn’ a gaiff eu rheoli'n lleol a allai olygu bod modd i weithwyr rheng flaen fynd i ganolfannau brechu heb fawr ddim rhybudd, os o gwbl.

Mae swyddogion a staff rheng flaen yr heddlu yn rhoi eu hunain mewn perygl sylweddol o ddal COVID-19 yn ddyddiol wrth orfodi'r rheoliadau a bennir gan Lywodraeth Cymru. Maent yn annog y cyhoedd i ddilyn rheolau cadw pellter a dywedant eu bod yn ymdrin yn ddyddiol â sefyllfaoedd lle ceir gwrthdaro, heb ystyried eu diogelwch na'u lles eu hunain o gwbl. Dywedant y gall cyfarpar diogelu personol gynnig rhywfaint o amddiffyniad ond nad yw'n ymarferol nac yn effeithiol ym mhob sefyllfa.

Mae'r risgiau sy'n wynebu'r teulu plismona yn unigryw, yn enwedig gan nad oes dewis ganddynt ond ymyrryd mewn sefyllfaoedd lle y byddai eraill yn dewis peidio â gwneud hynny. Isod ceir dwy enghraifft fyw a nodweddiadol sy'n tynnu sylw at y sefyllfaoedd y bydd ein swyddogion yn rhoi eu hunain ynddynt yn ddyddiol, cyn dychwelyd adref at eu teuluoedd a'u hanwyliaid.

  • “Mae'r troseddwr honedig wedi brathu ei fraich ac wedyn wedi poeri gwaed a darnau o gnawd at y dioddefwr gan honni bod ganddo glefyd heintus.”
  • “Ar ôl cael ei arestio, mae'r dyn wedi troi a phoeri at y swyddog a'i harestiodd. Wedyn mae'r poer wedi ei daro yn ei wyneb.”

Yng Nghymru, mae'r heddlu wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, y GIG a'n cymunedau i fynd i'r afael ag effaith COVID-19. Ledled Cymru, mae swyddogion a staff yr heddlu yn delio â galwadau i bartïon mewn tai a chynulliadau anghyfreithlon, yn ogystal â delio â phroblemau arferol o ddydd i ddydd lle y byddant yn wynebu'r risg o ymosodiad a gwrthdaro. Drwy gydol yr argyfwng iechyd y cyhoedd parhaus, mae swyddogion a staff rheng flaen yr heddlu wedi gweithio'n galed i gadw cymunedau'n ddiogel, gan stopio cerbydau, archwilio safleoedd a gorfodi cyfyngiadau COVID-19. Maent wedi ceisio darbwyllo'r cyhoedd i ddilyn y rheolau – ac, yn wir, mae'r mwyafrif wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau. Ond timau'r heddlu yw'r amddiffyniad olaf wrth ymdrin â'r lleiafrif sy'n torri'r gyfraith yn barhaus.

Er gwaethaf hyn, ni all swyddogion a staff rheng flaen yr heddlu gael y brechlyn a fyddai'n eu hamddiffyn rhag niwed ar hyn o bryd. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac rydym yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cartref, fel mater o frys, gefnogi cais Prif Weinidog Cymru i'r JCVI, ar ran y pedair gwlad, drwy ystyried blaenoriaethu galwedigaethau sy'n wynebu bygythiadau, risg a niwed yn wrthrychol, yn ogystal â'r flaenoriaeth amlwg a roddir i dystiolaeth epidemiolegol. Er ein bod yn croesawu ymgysylltiad swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gofyn rydym am ymateb cymesur a theg yn unol â'r blaenoriaethau ar gyfer brechu a lleoedd ar y rhestrau wrth gefn.

PCC Alun Michael, Cadeirydd Plismona yng Nghymru

CC Pam Kelly, Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru

 

Heddlu Dyfed Powys: PCC Dafydd Llywelyn & CC Mark Collins

Heddlu Gwent: PCC Jeff Cuthbert & CC Pam Kelly

Heddlu Gogledd Cymru: PCC Arfon Jones & CC Carl Foulkes

Heddlu De Cymru: PCC Alun Michael & CC Jeremy Vaughan

 

Datganiad gan y Prif Weinidog
“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bob swyddog heddlu ac aelodau o staff plismona sydd, ers dechrau'r pandemig, wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w dyletswydd yn eu hymdrechion i gefnogi ein cymunedau a chadw Cymru'n ddiogel. Mae pob un ohonoch wedi gweithio oriau hwy, wedi ymateb i amgylchiadau cyfnewidiol ac wedi wynebu hinsawdd anos nag a ddisgwylid erioed o'r blaen. Mae eich gwasanaeth yn allweddol i ddiogelwch ac iechyd ein cymunedau ac, fel nhw, mae'r Llywodraeth yn hynod ddiolchgar.

"Wrth inni barhau â'r gwaith hanfodol o gadw Cymru'n ddiogel drwy gyfyngiadau a phrofion, rydym hefyd yn cyflwyno ein rhaglen frechu gynhwysfawr. Rydym yn gwneud cynnydd rhyfeddol yn hyn o beth yng Nghymru ond mae gwaith i'w wneud o hyd. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni, fel gweddill y DU, yn glynu'n gaeth wrth y rhaglen frechu a amlinellwyd gan yr arbenigwyr annibynnol ar y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Ar hyn o bryd, rydym ar gam cyntaf y rhaglen blaenoriaethu brechiadau, sy'n ceisio brechu pawb dros 50 oed a phawb sy'n 16 oed a throsodd ac sydd mewn grŵp risg. Bydd blaenoriaethu fel hyn yn atal bron pob marwolaeth o COVID-19 y gellir ei hatal. Wrth inni symud yn llwyddiannus ymhellach ac ymhellach drwy'r cam cyntaf hwn, bydd y JCVI yn ystyried ei argymhellion ar y ffordd y dylid rhoi'r ail gam ar waith ac fel Llywodraeth rydym wedi gofyn i'r JCVI ystyried blaenoriaethu galwedigaethau yn seiliedig ar risg o ddal yr haint. Rydym yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU ar hyn er mwyn sicrhau ffordd glir a chyson o weithredu.

"Mae cyfraniad swyddogion a staff yr heddlu drwy gydol y pandemig wedi bod yn eithriadol. Mae'r brechlyn yn rhoi gobaith i bob un ohonom ac rydym yn gobeithio y byddwn wedi ei gynnig i'r boblogaeth oedolion gyfan yng Nghymru erbyn yr hydref. Yn y cyfamser, bydd ein cynrychiolwyr ar y JCVI yn parhau i ystyried buddiannau Cymru wrth i'r syniad o flaenoriaethu'r heddlu a galwedigaethau eraill gael ei ystyried."


Y Gwir Anrh Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru




Y newyddion diweddaraf

Tasglu'n cymryd camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched

Mae tasglu newydd, sy'n dod ag asiantaethau allweddol at ei gilydd, wedi cael ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n gweithio i herio agweddau ac ymdd…

Gweld mwy >

Heddlu De Cymru yn distewi i gofio'r rhai a aberthodd eu bywydau

Heddiw, cynhaliwyd gwasanaeth coffa – wedi'i arwain gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn sicrhau cyllid i wella diogelwch ar strydoedd Rhondda Cynon Taf…

Caiff cyfres o fesurau eu cyflwyno er mwyn gwneud strydoedd Rhondda Cynon Taf yn fwy diogel i fenywod a merched, diolch i gais llwyddiannus am gyllid …

Gweld mwy >