Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Wedi'i ddiweddaru: 10/11/2023
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 2023.
Cynhaliwyd y gwasanaeth ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf dros eraill.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Yn ein Gwasanaethau Coffa rydym yn esbonio pam rydym yno drwy'r geiriau ‘rhag i ni anghofio’ ac mae'n bwysig bod hyn yn cynnwys y dynion a'r menywod unigol a gollodd eu bywydau drwy erchylltra a thrychineb rhyfel.
“Heddiw o hyd, mae gwrthdaro ledled y byd yn effeithio ar lawer o bobl, gan gynnwys pobl sy'n rhan o gymunedau ledled De Cymru, ac rydym yn ymuno â nhw gan obeithio a gweddïo am heddwch o bob tu ac am ddiwedd i'w dioddefaint.
“Mae seremonïau fel y seremoni hon yn dod â phobl at ei gilydd wrth i ni gofio pob un a wnaeth yr aberth eithaf er mwyn y rhai hynny y gwnaethant eu gadael.
“Mae'r diwrnod hwn o gofio yn ein hatgoffa o'r cydberthnasau gwerthfawr sydd gennym â'n hanwyliaid, ein cydweithwyr a'n ffrindiau.
“Rydym yn cofio'r aelodau hynny o Heddlu De Cymru a fu farw wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau, ac rydym yn meddwl am eu teuluoedd. Mae heddiw yn gyfle i gofio amdanynt ond hefyd i ddathlu eu bywydau a'u gwasanaeth i gymunedau De Cymru.”
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >