Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Wedi'i ddiweddaru: 07/11/2023
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, Alun Michael, yn ymddangos gerbron Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ddydd Mercher, 8 Tachwedd.
Bydd y tri Chomisiynydd Heddlu a Throseddu arall yng Nghymru yn ymuno ag ef ar gyfer y sesiwn dystiolaeth untro a fydd yn dechrau am 10am.
Bydd Aelodau Seneddol yn defnyddio'r sesiwn i ystyried sut y bydd pob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cyflawni ei ddyletswyddau fel cynrychiolydd etholedig sy'n gyfrifol am lywodraethu'r heddlu, goruchwylio'r heddlu a chomisiynu gwasanaethau cyfiawnder troseddol ar gyfer ei ardal heddlu. Mae Aelodau Seneddol yn debygol o ofyn pa mor dda y mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Bydd y Comisiynwyr yn trafod sut mae eu heddluoedd yn mynd i'r afael â materion troseddu allweddol, pa gamau y mae eu heddluoedd yn eu cymryd i wella ymddygiad swyddogion, a pha mor ddigonol yw'r trefniadau cyllido cyfredol ar gyfer heddluoedd yng Nghymru.
Bydd y gwrandawiad hwn yn adeiladu ar dystiolaeth a gyflwynwyd gan Brif Gwnstabliaid yr Heddlu i'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf. Gwnaethant drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys perfformiad yr heddlu, y gydberthynas rhwng yr heddlu a'r cyhoedd, a heriau gweithredol.
Bydd y sesiwn yn dechrau am 10am.
Gallwch ei Gwylio'n fyw ar parliamentlive.t
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >