Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Wedi'i ddiweddaru: 12/01/2021
“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi ceisio atebion ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn ystod ei amser yn nalfa'r heddlu.
“Mae Heddlu De Cymru wedi atgyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, fel sy'n arferol yn dilyn marwolaeth rhywun ar ôl treulio amser yn nalfa'r heddlu. Mae hyn yn cydweddu â'n dull o ddilyn y dystiolaeth lle bynnag y bydd yn ein harwain, heb ofn na ffafriaeth.
“Cafwyd cadarnhad y bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad annibynnol i gyswllt yr heddlu â Mr Hassan cyn iddo farw.
“Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deulu a ffrindiau Mr Hassan, ac i'r aelodau hynny o'r gymuned y mae ei farwolaeth a digwyddiadau'r penwythnos wedi effeithio arnynt.
“Rydym bellach yn gwybod nad oes unrhyw anaf trawma corfforol i esbonio achos ei farwolaeth, ac mae'n bwysig ein bod yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad annibynnol cyn dod i unrhyw gasgliadau am yr hyn a ddigwyddodd.
“Rydym wedi rhoi'r camerâu o'r ddalfa a ffilm fideo o gamerâu a wisgir ar y corff gan swyddogion yr heddlu i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a fydd yn ei helpu i gadarnhau'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr oriau cyn i Mr Hassan farw.
“Yn y cyfamser, mae angen i ni fod yn amyneddgar a gadael i'r ymchwiliad ddilyn ei hynt er mwyn i ni gael darlun llawn o'r hyn a ddigwyddodd.”
Y Gwir Anrh Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Cyhoeddwyd y datganiad canlynol heddiw gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu mewn perthynas â'r ymchwiliad:
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >