res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Transparency

Menter Dwyll Genedlaethol 2022-23

 

 

Mae'n rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu, yn unol â'r gyfraith. Gall y Comisiynydd a Heddlu De Cymru rannu gwybodaeth â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio cyfrifon y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data, sy'n ymwneud â chymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill yr un corff neu gorff arall er mwyn gweld i ba raddau y maent yn debyg. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer ond gall hefyd fod yn wybodaeth amhersonol megis manylion am daliadau i gyflenwyr. Bydd data personol ond yn cael eu cadw tra bod eu hangen arnom i ddarparu gwasanaethau neu gyflawni ein rhwymedigaethau, ac i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer cadw mathau penodol o ddata.

Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu y gellir nodi hawliadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Pan nodir data tebyg, gall olygu bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir pennu a oes twyll, camgymeriad nac esboniad arall tan fod ymchwiliad wedi digwydd.

Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i'r Comisiynydd a Heddlu De Cymru fod yn rhan o ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae'n rhaid i'r Comisiynydd a Heddlu De Cymru roi setiau o ddata yn ymwneud â'r gyflogres, pensiynau a chredydwyr masnach i'r Archwilydd Cyffredinol; mae manylion y rhain yng nghanllawiau'r Comisiwn Archwilio: Menter Twyll Gendlaethol 2022-23: Rhaglen Waith a Manylebau Data (audit.wales)

Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol awdurdod statudol i ddefnyddio data mewn ymarfer paru data o dan ei bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n gofyn am ganiatâd gan yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, sy'n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).  Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Gellir dod o hyd i hwn yn: Cod Ymarfer Paru Data (audit.wales)

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, ewch i Menter Twyll Genedlaethol | Audit Wales

Os hoffech gael cyngor annibynnol ar yr hybysiad preifatrwydd hwn neu faterion eraill yn ymwneud â gwybodaeth bersonol, gan gynnwys cwynion, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (rhanbarthol):

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Ail Lawr
Churchill House
Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: wales@ico.org.uk              
Map a chyfarwyddiadau

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd yn y Fenter Twyll Genedlaethol cysylltwch â david.hollowayyoung@south-wales.police.uk

 

Mark Russell

Swyddog Diogelu Data Ar Y Cyd| Joint Data Protection Officer

Swyddog Diogelu Data Dros Dro | Interim Data Protection Officer

Rheoli Gwybodaeth | Information Management

Rheoli Gwybodaeth | Information Management

Pencadlys Heddlu De Cymru | South Wales Police Headquarters

Pencadlys Heddlu De Cymru | South Wales Police Headquarters

01656 869211

Ebost | Email:  Dataprotection@south-wales.police.uk

(: 01656 869211

 Arweinydd Strategol: Ansawdd, Safonau a Chydymffurfio|Strategic Lead: Quality, Standards and Compliance

De Cymru Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu |South Wales Police and Crime Commissioner

01656 869366

Ebost | Email: commisssioner@south-wales.police.uk

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >