Resize Text:

Cyfleoedd gwirfoddoli

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles anifeiliaid

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol

Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.

I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma

 

Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.

I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma

Y newyddion diweddaraf

Alun Michael yn cael ei ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae Alun Michael wedi cael ei ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu gan gymunedau De Cymru am y trydydd tro.

Datganwyd canlyniad yr etholiad a…

Gweld mwy >

Newidiadau i gyfyngiadau COVID-19 – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throse…

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi tystiolaeth feddygol gymhellol pam na allwn lacio'r rheolau a gadael i bawb wneud fel y mynnant. Mae'r penwy…

Gweld mwy >

Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu

Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn …

Gweld mwy >