Resize Text:

Switch to:

Ymgysylltu â'r gymuned

Mae eich Comisiynydd, Alun Michael, yn gyfrifol am roi llais i'r cyhoedd ym maes plismona yn Ne Cymru. Mae cyfarfod â phobl, siarad â phobl a gwrando i gyd yn bwysig er mwyn helpu'r Comisiynydd i ddeall materion yn ymwneud â phlismona a diogelwch cymunedol sydd o bwys i gymunedau ledled De Cymru.

Drwy glywed yn uniongyrchol gan bobl yn yr ardal, gall y Comisiynydd ddwyn Heddlu De Cymru i gyfrif yn effeithiol ar ran y cyhoedd, gan sicrhau bod yr heddlu'n darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.

Drwy gydol y flwyddyn, mae'r Comisiynydd yn cynnal nifer o grwpiau ffocws cymunedol ac ymweliadau, arolygon a digwyddiadau cyhoeddus i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i rannu eich barn ar faterion yn ymwneud â'ch plismona lleol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithgarwch ymgysylltu rydym wedi'i gynnal a'r materion a'r pynciau a drafodwyd gyda ni yn ein hadroddiadau Ymgysylltu Cymunedol Blynyddol isod:

Adroddiad Ymgysylltu Blynyddol 2020-21

Fersiwn PDF 

Fersiwn Hygyrch
Adroddiad Ymgysylltu Blynyddol 2019-20

Fersiwn PDF      

Fersiwn Hygyrch

Os hoffech chi gynnwys y Comisiynydd neu ei dîm mewn digwyddiad lleol rydych chi'n ei drefnu, gofynnwch iddo gyfarfod â grŵp cymunedol lleol, neu roi mewnbwn mewn digwyddiad, cysylltwch â ni ar:

engagement@south-wales.police.uk

 

Y newyddion diweddaraf

Cynnig pecyn cymorth i bobl ifanc sy'n gadael y carchar gyda'r nod o atal digart…

Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gae…

Gweld mwy >

Cyllid wedi'i sicrhau i barhau â gwaith atal trais hanfodol ledled Cymru

Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael tair blynedd arall o gyllid i barhau â gwaith hanfodol i f…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael yn nodi'r Diwrnod o Fyfyrdod (23 …

Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafe…

Gweld mwy >