Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis Ymwadiad Cysylltwch â niGwybodaeth am y Wefan
Mae'r canlynol yn amlinellu'r telerau ac amodau sy'n caniatáu i wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru: www.commissioner.south-wales.police.uk (neu unrhyw URL olynol), ei chynnwys, gwaith dylunio graffig, cyfleusterau chwilio a gwasanaethau ar-lein fod ar gael i chi.
Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau ac amodau a nodir yma.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru sy'n berchen ar y wefan hon ac sy'n ei gweithredu. Cynhelir y wefan gan Heddlu De Cymru.
Defnyddir y wefan hon i roi gwybod i'r cyhoedd am newidiadau a datblygiadau mewn plismona yn Ne Cymru ac i roi cyfle i'r gymuned a phartneriaid helpu i fynd i'r afael â throseddau.
Mae'r wefan hon yn datblygu drwy'r amser a chynllunnir datblygiadau sylweddol yn y dyfodol agos.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r wefan hon neu os hoffech roi gwybod am unrhyw wallau neu ddiffygion, defnyddiwch ein ffurflen ymholiad cyffredinol ar-lein.
Ymwadiad
Er y bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir a chyfredol, fe'i darperir ar sail ‘fel ag y mae’ heb warantau o unrhyw fath, ac ni roddir unrhyw warant, penodol nac ymhlyg, o ran ei chywirdeb na’i chyflawnder. Nid yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn gwarantu lefel perfformiad, ansawdd nac addasrwydd at y diben mewn perthynas â'r wefan hon na'r wybodaeth a'r gwasanaethau ynddi.
Nid yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn gwarantu y bydd y wefan a'i chynnwys yn ddi-dor a heb wallau, y caiff unrhyw ddiffygion eu cywiro, neu fod y wefan hon neu'r gwasanaeth sy'n sicrhau ei bod ar gael heb unrhyw feirws neu fyg. Nid yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wall neu wybodaeth a hepgorwyd. Ni fydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn atebol am hawliadau na cholledion trydydd parti o unrhyw natur, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golledion neu elw, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnydd trydydd parti o’r wefan hon neu ei anallu i ddefnyddio'r wefan hon.
Bwriedir i'r wybodaeth a roddir ar y wefan hon gael ei defnyddio fel canllaw i'r wybodaeth a'r gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol arall.
Caiff yr holl ddeunydd ar y wefan hon ei warchod gan hawlfraint. Oni bai y nodir yn benodol fod deunydd penodol ar gael at ddefnydd cyffredinol yna ni ddylid ei gopïo na'i ail-ddefnyddio heb ganiatâd pendant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru neu ganiatâd deiliaid hawlfraint eraill lle caiff deunydd ei ddefnyddio o dan drwydded.
Yr unig eithriadau yw'r rheini o dan gyfraith hawlfraint, lle gellir defnyddio deunydd heb ganiatâd neu dâl ar gyfer:
Ymchwil neu astudiaeth breifat
Beirniadaeth ag adolygiad dilys
Addysg (ar yr amod nad yw'n ymwneud â chopïau lluosog)
Mewn achosion cyfreithiol
Mae hyn yn amodol ar ddeunydd yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Mae'n rhaid i ffynhonnell y deunydd gael ei chyfeirnodi'n briodol.
Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â deunydd hawlfraint Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru at Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru drwy ein ffurflen ar-lein.
Dolenni
Nid oes angen gofyn am ganiatâd i gysylltu ag unrhyw dudalen ar y wefan hon. Ni ddylid agor ein tudalennau o fewn fframset nac unrhyw strwythur arall a allai arwain at gynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn cael ei ystyried yn rhan o wefan arall.
Nid yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan y ceir dolen hyperdestun iddi o’r wefan hon. Darperir y dolenni ‘fel ag y maent’ heb unrhyw warant, penodol neu ymhlyg, o ran y wybodaeth ynddynt.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor…
Gweld mwy >